Ein datrysiad premiwm ar gyfer ffermwyr sydd eisiau cefnogaeth gyflawn i'w busnes a'u teulu
Sut mae'n gweithio
1
Ymsefydlu Premiwm
Mae symud i PJE Agri mor hawdd.
Mae ein tîm ymsefydlu yn gofalu am bopeth i chi. P'un a ydych chi'n gleient newydd neu'n gleient presennol, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn gwneud y newid mor syml â phosibl.
2
Ansawdd Gwell
Pŵer Dext a Xero.
Drwy ddefnyddio Dext ar gyfer cipio data a Xero ar gyfer cadw llyfrau, rydym yn gweithredu'n effeithlon i ychwanegu cymaint o fanylion â phosibl at eich ffurflenni TAW, MTD ar gyfer ffurflenni treth incwm chwarterol a chyfrifon diwedd blwyddyn, heb unrhyw gynnydd i'ch costau cyfrifyddu. Mae'r wybodaeth fanwl o ansawdd uchel hon ar gael i chi mewn pecyn cyfrifon terfynol rhyngweithiol a 'byw' ar ddiwedd y flwyddyn, gan ganiatáu inni archwilio'ch cyfrifon yn fanwl yn ein cyfarfod diwedd blwyddyn.
3
Cynllunio a Chynghori Trethi
Cyngor fel safon.
Bydd ein gwaith cadw llyfrau a chyfrifyddu o safon uchel yn ein galluogi i gynnig cyfarfod cynghori cyn diwedd y flwyddyn i bob cleient PJE Agri gydag un o'r tîm cynllunio. Bydd cyfarfod ar ôl diwedd y flwyddyn hefyd ar gael i drafod y cyfrifon terfynol. Dim mwy o ddyfalu eich elw a meddwl tybed a ddylech chi ailfuddsoddi. Nid yw ein cynllunio treth yn gyfyngedig i dreth incwm; rydym bob amser yn ystyried goblygiadau treth enillion cyfalaf a threth etifeddiaeth. Byddwn yn amlinellu'r mesurau angenrheidiol i amddiffyn ffermydd teuluol a galluogi teuluoedd i barhau i ffermio eu tir am genedlaethau i ddod.
Beth sydd wedi'i gynnwys?
Mae pob cleient PJE Agri yn cael mynediad ar unwaith at y timau ffermio a chynllunio a'u harbenigedd. Dyma rai o'r uchafbwyntiau.
Cyngor drwy gydol y flwyddyn ar bob agwedd ar dreth fusnes a phersonol er budd eich busnes a'ch teulu
Cynllunio treth etifeddiaeth
Cymorth treuliau ffermdy
Dewisiadau prynu peiriannau, gan gynnwys cyngor ar brydlesu yn erbyn prynu ar rent ac opsiynau arian parod yn erbyn benthyciad
Cerbydau personol a busnes
Pecynnau adrodd ar gyfer ceisiadau am grant
Delio'n uniongyrchol â rheolwyr banc
Cynaliadwyedd
Amrywio
Datrysiadau strwythur corfforaethol
Cyfarfodydd cyn diwedd y flwyddyn bob blwyddyn
Cyfarfodydd adolygu cyfrifon bob blwyddyn